Nodau Hyfforddiant BPIF (Cymru) yw cynorthwyo'r sector print Gymraeg i wella sgiliau'r gweithlu i ddatblygu dysgu, proffidioldeb a chynaliadwyedd.
Trwy ein his-gontract gyda Grwp Hyfforddi ACT rydym yn cynnig ystod lawn o brentisiaethau argraffu. Mae yna ddeuddeg o wahanol lwybrau argraffu yn amrywio o gynhyrchu argraffu i gynhyrchu print digidol a thros 120 o unedau CGC gwahanol sy'n cwmpasu'r amrywiaeth enfawr o dechnegau argraffu mewn lithograffeg / fflecsograffeg/ grafur a sgrin.
Dyma dair elfen sylfaenol prentisiaeth Gymreig: -
- NVQ print benodol ar naill ai lefel 2 neu 3
- Tystysgrif Dechnegol sy'n cynnwys tair arholiad ar wahân
- a Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
Yn ogystal â'r cydrannau hyn bydd prentisiaid hefyd yn astudio:-
- Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd a Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Gwerthoedd Prydeinig
- a Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr


- BPIF Training Wales The stated aims of BPIF Training (Wales) is to assist the Welsh print sector to improve the skills of the workforce to develop learning, profitability and sustainability.